Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd

(Gogoniant yr Iesu yn y nefoedd - Rhan I)
Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd,
  Fe rwygodd f'Anwylyd y llen;
Fe_yw Haul y Cyfiawnder y sydd
  Yn_goleuo'r holl nefoedd uwch ben:
Mae yno dyrfa
    anfeidrol o faint,
  Ac etto ni welaf mo'r un,
Angylion, seraphiaid, na saint,
  Neb fel fy Anwylyd ei hun.

Mae'n eistedd yn nghanol y llu
  Sy_â'u nifer fel
      glaswellt y maes,
Yn helaeth yn rhoddi i bob un
  Ogoniant, a harddwch, a gras;
Fel haul yn yr wybren a fai
  Yn tywynu ar fyrddiwn o ser,
A'i wres, a'i oleuni ddim llai -
  Fel hyn mae gogoniant ein Ner.

Tuag ato mae wyneb ei saint,
  Oddi amgylch yn rhes ar ol rhes;
Cwmpeini aneirif o faint,
  Rhai 'mhellach oddi wrtho, rhai 'nes:
Disgleirdeb ein Harglwydd ä 'mhell -
  Mil pellach na'r
      haul yn ei rod:
Ei fwynhau ef mae'r pellaf yn well
  Nag allwyd amgyffred erioed.

'Does angel, na seraph, na sant,
  Byth yno'n disgleirio ei hun;
Pe ciliai f'Anwylyd i bant,
  Fe dywyllai, fe dduai pob un;
Ef yw Afon y Bywyd sydd fry,
  Ef yw'r Manna cuddiedig a drud;
Efe yw hyfrydwch y llu -
  Ië, 'm Iesu yw'r nefoedd i gyd.

               - - - - -

Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd,
  Fe rwygodd f'Anwylyd y llen;
Fe_yw haul y cyfiawnder y sydd,
  'N goleuo'r holl nefoedd uwchben;
Mae'r dyrfa anfeidrol o faint,
  Ac etto ni welaf mo'r un,
'Mhlith 'ngylion, seraphiaid, a saint,
  Neb fel fy Anwylyd ei hun.

'Ddaw syched, na newyn, na phoen,
  Na gofid, na galar, na chlwy',
Nac anwyd yn nheml yr Ion,
  Na gwres idd' eu blino byth mwy:
Mae yno adenydd fy Ion,
  Yn taenu fel nefoedd ar led,
Yn cuddio priodasferch yr Oen,
  O fenaid, i fynu ehed!

Y Baradwys af iddi cyn hir,
  Mae afon y bywyd yn hon,
Yn llifo fel grisial yn glir,
  I ddiodi'r sychedig o'u bron,
Mae hefyd yn nghartre' fy Naf,
  Afonydd o laeth ac o fel,
Wel bellach tuag yno mi af,
  A deued hi fel ag y del.

               - - - - -

Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd,
  Fe rwygodd f'Anwylyd y llen;
Fe_yw Haul y Cyfiawnder y sydd
  Yn_goleuo'r holl nefoedd uwchben:
Mae'r dyrfa'n anfeidrol o faint,
  Ac etto ni welaf mo'r un,
Angylion, seraphiaid, na saint,
  Neb fel fy Anwylyd ei hun.

Mae'n eistedd yn nghanol y llu
  Sy_â'u nifer fel
      glaswellt y maes,
Yn helaeth yn rhoi i bob un
  Ogoniant a harddwch a gras;
Fe yw Afon y Bywyd sydd fry,
  A'r Manna cuddiedig a drud;
Efe yw hyfrydwch y llu -
  Fy Iesu yw'r nefoedd i gyd.

            - - - - -

Mae'r lle sancteiddiolaf yn rhydd,
  Fe rwygodd f'Anwylyd y llen;
A Haul y Cyfiawnder y sydd,
  Yn golau'r holl nefoedd uwchben;
Mae'r dyrfa anfeidrol o faint,
  Ac eto ni welaf mo'r un,
Angylion, seraphiaid, na saint,
  Neb fel fy Anwylyd ei hun.

'D oes fesur amseroedd byth fry
  Dim oriau cyffelyb i'r byd;
Mynd heibio mae oesoedd di-ri',
  Wrth ganu i'r Iesu ynghyd:
'R holl nefoedd, wrth weled ei ras,
  Sy'n synnu, yn canu'n fwy hy
Ganiadau newyddion eu blas -
  Wel dyna'r digrifwch sydd fry!
William Williams 1717-91

Tonau [8888D]:
  Llewelyn (Evan Thomas Davies 1878-1969)
Pennant (David de Lloyd 1883-1948)
Rhyl (J Ambrose Lloyd 1815-74)
Salome (alaw Gymreig)
Trewen (D Emlyn Evans 1843-1913)

gwelir:
  Rhan II - Y goleuni sy'n ninas ein Duw
  Rhan III - Angylion seraphiaid a saint
  Rhan IV - Wrth gofio dichellion y ddraig
  Rhan V - Y Rhai a'i canlynodd efe
  'Does mesur amseroedd byth fry
  Pwy [wela'i / welaf] o Edom yn dod?
  Y rhyfel o'n hochr ni sydd
  Y wlad yr âf iddi cyn hir

(The glory of Jesus in heaven - Part 1)
The most holy place is free,
  My Beloved rent the curtain;
He is the Sun of Righteousness who is
  Lighting all the heavens above:
There is an immeasurably
    large throng there,
  And yet I do not see any one,
Angels, Seraphim, or saints,
  None like my Beloved himself.

He is sitting in the centre of the host
  Whose number is like
      the grass of the field,
Bountifully giving to every one
  Glory, and beauty, and grace;
Like a sun in the sky that would be
  Shining on myriads of stars,
With its heat, and its light no less -
  Like that is the glory of our Master.

Towards him is the face of his saints,
  All around in row after row;
A company innumerably large,
  Some a distance from him, some nearer:
The radiance of our Lord shall go far -
  A thousand times further than
      the sun in its orbit:
Enjoying him is far better
  Than ever could be comprehended.

There is no angel, nor seraph, nor saint,
  Ever there shining himself;
If my Beloved should retreat away,
  Every one would darken, would blacken;
He is the River of Life which is above,
  He is the hidden and costly Manna;
He is the delight of the host -
  Yes, my Jesus is all of heaven.

                - - - - -

The most holy place is free
  My beloved rent the curtain;
He is the sun of righteousness, that is
  Lighting all the heavens above;
The throng is of immeasurable size,
  And yet I see not one,
Amongst angels, seraphim, and saints,
  None like my Beloved himself.

No thirst, or hunger, or pain shall come,
  Or grief, or mourning, or wound,
Nor to any born in the temple of the Lord,
  Any heat ever to weary them any more:
There are there my Lord's wings,
  Spreading like heavens wide open,
Hiding the bride of the Lamb,
  O my soul, fly up!

The Paradise I shall go to before long,
  The river of life is in it,
Flowing clearly like crystal,
  To give drink to the thirsty completely,
There are also in my Master's home,
  Rivers of milk and of honey,
See henceforth towards there i am going,
  And let it come as it may come.

                - - - - -

The most holy place is free,
  My Beloved rent the curtain;
He is the Sun of Righteousness that is
  Lighting all the heavens overhead:
The throng is of immeasurable size,
  And yet I do not see any,
Angels, seraphim, or saints,
  No-one but my Beloved himself.

He is sitting in the midst of the throng
  Whose number is like
      the grass of the field,
Bountifully giving to every one
  Glory and beauty and grace;
He is the River of Life which is above,
  And the hidden and costly Manna;
He is the delight of the host -
  My Jesus is all of heaven.

                 - - - - -

The most holy place is free,
  My beloved rent the curtain;
And the Sun of Righteousness is there,
  Lighting all heaven overhead;
The throng is of immeasurable size,
  And yet I do not see any,
Angels, seraphim, or saints,
  No-one but my Beloved himself.

There is never any measure of times above,
  No hours similar to the world;
Going past are the innumerable ages,
  While singing to Jesus together:
All heaven, on seeing his grace,
  Is surprised, singing more boldly
Songs whose taste is new -
  See, that is the delight that is above!
tr. 2017,23 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

No personal approval is given of products or services advertised on this site and no personal revenue is received.

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~